Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 16 Hydref 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
 


235(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

(30 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am faterion llifogydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru?

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Peter Fox (Mynwy): Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau ynghylch diffyg o £540 miliwn yn y gyllideb sy'n wynebu cynghorau a'u gallu i ddarparu gwasanaethau hanfodol, gan arwain at lawer o gynghorau yn wynebu methdaliad?

</AI5>

<AI6>

5       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Cynnig i sefydlu pwyllgor

(5 munud)

NDM8694 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu Pwyllgor Senedd y Dyfodol.

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw trafod tri mater a chyflwyno adroddiad arnynt erbyn 9 Mai 2025: 

a) trefn busnes yn y Seithfed Senedd, gyda’r nod o ganfod opsiynau sy’n cynyddu effeithiolrwydd ei gwaith craffu, effeithiolrwydd y modd y mae’n darparu busnes o ddydd i ddydd, a hygyrchedd busnes seneddol i’r Aelodau;

b) nodi atebion i rwystrau (gwirioneddol a chanfyddedig) a all amharu ar allu’r Senedd i gynrychioli pobl o bob cefndir, profiad bywyd, dewis a chred, neu sydd â’r potensial i wneud hynny, gan gynnwys ystyried fersiynau drafft a therfynol y canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol; ac

c) trothwyon a osodir ar hyn o bryd yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer nifer yr Aelodau sy’n ofynnol at wahanol ddibenion, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ffurfio grwpiau gwleidyddol, diswyddo deiliaid swyddi, a chworwm.

3. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S yn gymwys mewn perthynas â Phwyllgor Senedd y Dyfodol.

4. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) Julie James AS (Llafur Cymru), Alun Davies AS (Llafur Cymru), Darren Millar AS (Ceidwadwyr Cymreig) a Heledd Fychan AS (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor Senedd y Dyfodol; a

b) David Rees (y Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol.

5. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6, yn atal dros dro ran gyntaf Rheol Sefydlog 17.37 mewn perthynas â Phwyllgor Senedd y Dyfodol, ac yn cytuno mai dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff cadeirydd y Pwyllgor bleidleisio.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli

(30 munud)

NDM8687 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygu chwareli yn agos at aneddiadau.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) ei gwneud yn ofynnol i risgiau i'r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac i iechyd y cyhoedd, mewn cysylltiad â safleoedd chwarelyddol arfaethedig gael eu hasesu fel rhan o'r broses gynllunio;

b) gosod parth clustogi gorfodol o 1,000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a'r rhai presennol; ac

c) darparu mai dim ond Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru all wneud y penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel, gydag ystyriaeth yn cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Gweithredu Diwygiadau Addysg: Adroddiad Interim

(60 munud)

NDM8690 Buffy Williams (Rhondda)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Gweithredu diwygiadau addysg: Adroddiad interim’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024.

Sylwch: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2024.

</AI9>

<AI10>

9       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermydd sy'n eiddo i gynghorau

(30 munud)

NDM8692 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir gan ffermydd sy’n eiddo i gynghorau o ran cefnogi cynhyrchiant bwyd a galluogi pobl ifanc i fentro i fyd ffermio.

2. Yn gresynu bod gwerthu ffermydd sy’n eiddo i gynghorau yn peryglu diogeledd bwyd Cymru a’i harferion ffermio traddodiadol, gan arwain at newid i arferion llai cynaliadwy.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi moratoriwm ar werthu ffermydd sy’n eiddo i gynghorau y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn berchen arnynt.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu’r ffaith y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy ar gael i ffermwyr ar ffermydd sy’n eiddo i gynghorau ac y bydd yn cefnogi’r ffermwyr hyn.

Yn nodi mai mater i awdurdodau lleol Cymru yn y pen draw yw rheoli ffermydd sy’n eiddo i gynghorau.

</AI10>

<AI11>

10    Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysgu sgiliau darllen mewn ysgolion

(30 munud)

NDM8693 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniadau PISA 2022 a ganfu mai Cymru oedd â’r sgoriau darllen gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, a’u bod ymhell islaw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

2. Yn gresynu bod 20 y cant o blant Cymru yn ymarferol anllythrennog pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.

3. Yn cydnabod y cafodd y system o ddefnyddio ciwiau wrth addysgu darllen ei gwahardd yn Lloegr yn 2005, yn sgil pryderon y gallai danseilio ymdrechion i addysgu disgyblion i ddarllen, ond bod hynny dal heb ddigwydd yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gyhoeddi canllawiau ar unwaith i sicrhau bod ysgolion ac athrawon yn defnyddio'r dull ffoneg o addysgu darllen i wella perfformiad, ac i hyrwyddo hynny; a

b) i gyflwyno cyfundrefn o brofion darllen ar frys, fel y gwelwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, er mwyn gwella safonau darllen.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi:

a) codi safonau darllen fel rhan o flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i godi safonau mewn ysgolion a cholegau;

b) ymgorffori llythrennedd ar draws pob maes dysgu fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru;

c) cymryd camau i wella’r broses o addysgu dysgwyr i ddarllen, gan gynnwys gwneud geiriad canllawiau yn gliriach lle bo angen; a

d) defnyddio asesiadau personol i gefnogi cynnydd dysgwyr o ran darllen, ac i gadw llygad ar welliannau yn genedlaethol.

2. Yn nodi bod y disgwyliadau o ran pwysigrwydd ffoneg eisoes wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru.

3. Yn cydnabod bod yn rhaid i benderfyniadau am addysgu dysgwyr i ddarllen gael eu llywio bob amser gan yr hyn sydd orau i’r dysgwr.

Canllawiau statudol Cwricwlwm i Gymru

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gyhoeddi canllawiau ar unwaith i sicrhau bod y dull ffoneg yn flaenllaw wrth addysgu darllen er mwyn gwella perfformiad;

b) i gynnal adolygiad parhaus o'r dystiolaeth arbenigol ddiweddaraf a chymharu arfer da mewn gwledydd eraill er mwyn sicrhau'r dulliau mwyaf effeithiol o addysgu sgiliau darllen;

c) ailddatgan ei tharged o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA, gan gynnwys sgiliau darllen, a chyhoeddi strategaeth o’r newydd, gyda cherrig milltir mesuradwy, er mwyn ei gyrraedd; a

d) asesu pam fod disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael canlyniadau PISA, gan gynnwys sgiliau darllen, is na disgyblion mewn cymunedau tebyg yn Lloegr.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd ei tharged mwyaf diweddar o sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes a asesir gan PISA erbyn 2022, gan gynnwys sgiliau darllen, a hynny yn dilyn methu â chyrraedd y targed gwreiddiol i Gymru fod ymhlith yr 20 o wledydd uchaf ar restr PISA.

</AI11>

<AI12>

11    Cyfnod Pleidleisio

 

</AI12>

<AI13>

12    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8691 Buffy Williams (Rhondda)

Sicrhau y gall pob plentyn ffynnu: dathlu addysg amgen yng Nghymru

</AI13>

 

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 22 Hydref 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>